cymraeg

 

 

Ras Rhedeg Hen Ferched Cymreig Aberystwyth

Ras hwyl

Dathlwch Ddydd Gŵyl Dewi drwy gymryd rhan yn 'Ras Hwyl Dydd Gŵyl Dewi? enwog Aberystwyth! Mae dal amser i gofrestri..... Lansiodd Menter Aberystwyth ei Ras Dydd Gŵyl Dewi blynyddol ym mis Mawrth 2006 er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi mewn steil a rhoi Aberystwyth ar y map. Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad cyntaf y llynedd, cynhelir ras 2008 ar 1 Mawrth am 12pm a byddwn unwaith eto eleni yn gweld y cystadleuwyr, yn ddynion ac yn ferched, yn gwisgo mewn gwisg draddodiadol Gymreig i ferched ac yn cymryd rhan mewn ras 3 cilomedr.

Y ffi cystadlu yw £5 yr oedolyn a £2 i blant ysgolion cynradd. Mae ffurflenni ymgeisio ar gael drwy gysylltu ? Menter Aberystwyth ar 01970 624912 neu drwy ysgrifennu atynt yn Swyddfa B6, Y Cambria, Rhodfa?r M?r, Aberystwyth SY23 2AZ. Fel arall ewch i www.dewchiaberystwyth.com i weld manylion pellach y gystadleuaeth a dadlwytho ffurflen ymgeisio.