cymraeg

 

 

Mentro Lluest yn cael gliniadur gan BT

Mae Mentro Lluest wedi ennill gwobr “e-ffective Connection Award” gan BT Community Connections – cynllun gwobrwyo sy’n cysylltu grwpiau cymunedol a gwirfoddol â’r rhyngrwyd.

Offer TG a geir gyda’r e-ffective Connection Award, offer a fydd yn ychwanegu at y cyfrifiadur personol parod-ar-gyfer-y-we a dderbyniwyd eisoes gan enillwyr BT Community Connections. Mae’r wobr yn cydnabod grwpiau sy’n gallu dangos sut y bydd defnyddio offer TG ychwanegol yn gwella eu gwaith a bod o fudd i’r gymuned ehangach. Roedd dewis o bump o becynnau o offer cyfrifiadurol gwerth £600 yr un ar gael ar gyfer ymgeiswyr. Mae Mentro Lluest wedi cael gliniadur NEC gyda darllenydd cerdyn cof a Cho-Bach USB.

Un o gannoedd o ymgeiswyr oedd Mentro Lluest i’r cynllun gwobrwyo. Gwnaeth argraff dda ar y beirniaid gyda’i sylwadau ar sut y byddai’n parhau i gyfrannu i’r gymuned leol trwy ddefnyddio’r offer ychwanegol a gynigid ym mhecyn yr e-ffective Connection Award.

Dywedodd Chris Glover o Mentro Lluest, “Rydym yn hynod falch o dderbyn ein Gwobr BT Community Connections. Bydd y gliniadur yn adnodd anhepgor a fydd yn ein galluogi i roi cyflwyniadau proffesiynol i gyfarfodydd ar gyfer darpar noddwyr, i ysgolion ac mewn digwyddiadau lle mae Mentro Lluest yn bresennol. Gallwn ddangos ein deunydd hysbysebol mewn sioeau a digwyddiadau allanol eraill lle gynt nad oeddwn yn gallu gwneud hynny. Gobeithiwn gysylltu â llawer mwy o bobl yn y gymuned nawr gan godi ymwybyddiaeth ohonom a rhoi mwy o gyfle i drigolion Ceredigion i elwa ar y gwasanaethau a gynigiwn.”

Dywedodd Beth Courtier, Pennaeth rhaglen elusennol BT, “Dangosodd ein hymchwil inni fod cyfrifiadur personol parod-ar-gyfer-y-we wedi bod o fudd mawr i lawer o’n henillwyr o’r blaen ond yr oedd angen ar rai ohonynt adnoddau cyfrifiadurol ychwanegol ar ben hyn. Rhydd yr e-ffective Connection Award gyfle felly i grwpiau cymunedol i ddewis pecyn TG a fydd yn ateb eu gofynion i’r dim yn lle cael rhywbeth na fyddai’n ateb pob gofyn. Rydym yn gobeithio y bydd y wobr ychwanegol hon yn annog ein henillwyr i ddal ati i ehangu eu gwaith da yn y gymuned leol trwy eu galluogi i ddatblygu prosiectau sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd ar raddfa ehangach a dyfnach.”