cymraeg

 

 

Mentro Lluest yn cydweithio â gwesty lleol

Mae Mentro Lluest a Gwesty’r Conrah, sydd yn Rhydgaled ger Aberystwyth, yn cael budd o gydweithio â’i gilydd.

Mae’r gwesty a leolir ar ugain erw o dir tirluniedig, wedi neilltuo ei ardd lysiau ar ein cyfer. Bydd hyn o gymorth inni i ddatblygu sgiliau tir ein myfyrwyr megis tyfu’n organig, garddwriaeth a gwaith coed, fel y gallant gael gwell cyfle i gael swydd.

Trwy weithio ochr yn ochr â thirmon y Conrah am un dydd bob wythnos, bydd myfyrwyr Mentro Lluest yn tyfu ffrwythau a llysiau ar gyfer bwydlen Harry’s, bwyty gwobredig y gwesty.

Bydd llysiau fel ffa cochion, garlleg, cennin, a letys a ffrwythau fel mefus a mafon yn cael eu defnyddio ar gyfer y fwydlen i lysieuwyr. Bydd y gwesty yn rhoddi £1 i’r elusen am bob pryd a brynir sy’n seiliedig ar ein cynnyrch.

Dywedodd Swyddog Datblygu Mentro Lluest, Chris Glover: “Ar adeg pan mae’n rhaid inni weithio’n galed i sicrhau nawdd, mae cefnogaeth annisgwyl y Conrah wedi rhoi cryn hwb i’r galon. Bydd yr elusen yn elwa o ran codi arian ac o ran y cyfleoedd fydd ar gael i’w myfyrwyr.”

Dywedodd Tom Bates, Cyd-lynydd Gwerthu a Marchnata Gwesty’r Conrah: 'Mae’n fraint inni weithio ar y cyd â’r elusen leol, werth-chweil hon. Mae synergedd amlwg rhyngom. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio – bydd gan fwyty Harry’s gyflenwad da o lysiau cartref a bydd myfyrywr yr elusen yn ennill profiad gwaith sylweddol.”

Mae Gwesty’r Conrah sydd ond tair milltir i ffwrdd o Aberystwyth yn cynnig llety moethus a phrydau bwyd o safon dda iawn, prydau sy’n cael eu paratoi’n berffaith gyda chynnyrch lleol ym mwyty gwobredig, Harry’s.