cymraeg

 

 

YMWELIAD GAN YSGOL

Ymwelodd disgyblion Blwyddyn 5, Ysgol Gymunedol Llwyn yr Eos â Mentro Lluest ar 12fed Hydref 2006 fel rhan o’u prosiect ar lysiau, prosiect ar y cyd â Chanolfan Organig Cymru. Aethant o gwmpas yr ardal dyfu organig a chael y cyfle i godi llysiau nad oeddynt wedi gweld llawer o’u math erioed o’r blaen y tu allan i archfarchnad.

Cafodd y plant gyfle i flasu dail salad a dyfir yn nhwnneli tyfu Mentro Lluest. Nid oeddynt yn cyd-weld â’i gilydd ar flas rhai o’r planhigion salad anghyffredin ond roedd pawb yn frwd dros flasu blodau bwytadwy fel capan cornicyll (nasturtium) a thafod yr ych (borage). Cyn mynd â’u ffrwythau a’u llysiau gyda nhw rhoddwydd clamp o bwmpen iddynt, yr oedd rhaid cael tri o’u nifer i’w chodi, i’w naddu ar gyfer Nos Galan Gaeaf.

Rydym yn gobeithio i’r plant gael hwyl ar eu hymweliad â Mentro Lluest ac edrychwn ymlaen at eu gweld nhw a phlant o ysgolion eraill rywbryd eto.

Arddangoswyd Prosiect Llysiau’r plant yn Ffair Fwydydd Canolfan y Celfyddydau ym mis Tachwedd 2006.

Plant ysgol yn blasu capan cornicyll
Plant ysgol yn blasu capan cornicyll