Cynhaliwyd seremoni i gyflwyno tystysgrifau ar 25ain Medi yn Mentro Lluest. Yr oedd hi’n amser i ddathlu gwaith caled a llwyddiant y myfyrwyr dros y flwyddyn. Daeth staff, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr, teuluoedd a chyfeillion ynghyd yn yr Ystafell Hyfforddi, ar ein safle yn Llanbadarn, i weld y myfyrwyr yn derbyn eu tystysgrifau.
Dathlwyd llawer o lwyddiannau yn yr achlysur, yn eu plith: tri o fyfyrwyr yn cwblhau eu Tystysgrif o’r National Proficiency Test Council mewn Sgiliau ar gyfer Bywyd Gwaith, gyda rhai eraill yn llwyddo mewn modiwlau o’r cymhwyster hwn.
Cyflwynwyd cyrsiau NPTC bum mlynedd yn ôl yn rhaglen hyfforddiant Mentro Lluest ac ers hynny mae dros ddeugain o fyfyrwyr wedi astudio ar gyfer lefelau 2 a 3 mewn Garddwriaeth.
Mae Mentro Lluest yn llongyfarch pob un o’i myfyrwyr ac yn diolch yn ddiffuant i’r Cynghorydd Ben Davies, un o ymddiriedolwyr yr elusen, am gyflwyno’r tystysgrifau.