Fe ddes i i Mentro Lluest yn 2004 fel gwirfoddolwr o fyfyriwr yn astudio ar gyfer Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) mewn Rheoli Cefn Gwlad yn Sefydliad Gwyddorau Gwledig, Prifysgol Cymru Aberystwyth. Rwyf wedi aros yn Mentro Lluest ers imi ennill fy HND. Mae gen i ddwy rôl yma: Cyd-lynydd Y Gwirfoddolwyr a hefyd Swyddog Datblygu.
Mae’r gwaith yn rhoi boddhad mawr imi ac rydw i wrth fy modd yn gweld y gwahaniaeth ym mywydau’r myfyrwyr wrth iddyn nhw dreulio amser yn dysgu gyda ni. Mae Mentro Lluest yn elusen unigryw yn yr ardal hon ac rwy’n falch iawn o fod yn rhan ohoni.