cymraeg

 

 

Newyddion y gwirfoddolwyr

Roedd 2006 yn flwyddyn brysur iawn i’n gwirfoddolwyr gan inni ddefnyddio rhagor o’n tir ar gyfer plannu cnydau. Ar ben sicrhau mai’r flwyddyn fwyaf llwyddiannus hyd yma i’n Cynllun Bocs Llysiau Organig oedd 2006, gweithiodd y Gwirfoddolwyr yn ddiwyd i godi ffens i gadw’r ardal dyfu yn ddiogel rhag cwningod. Nid gwaith hawdd mo hwn! Roedd rhaid gosod y ffens ddwy droedfedd i lawr yn y pridd i rwystro’r cwningod rhag tyllu oddi tani. Roedd y cwningod yn swmbwl yn ein cnawd y llynedd a dweud y lleiaf – collasom nifer sylweddol o’n llysiau o’u herwydd. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a’n helpodd i godi’r ffens hon ac rydym yn gobeithio cael safle heb gwningod eleni.

Trwy gydol 2007 byddwn yn elwa o rodd hael gan The Woodward Charitable Foundation. Pa un ai garddio ei hun, neu gynnal a chadw, neu DIY, neu gadwraeth neu fod yn gefn i rywun sydd at eich dant chi fe fydd rhywbeth yma ichi ymwneud ag ef. Cofiwch na allai Mentro Lluest fynd yn ei flaen â’i waith gwerthfawr yn y gymuned heb ymrwymiad gwirfoddolwyr i’r achos.

Os hoffech wirfoddoli yn Mentro Lluest yna cysylltwch â ni.