Wedi ei lleoli ar safle tair erw sy’n agos i dref hanesyddol Aberystwyth, mae Mentro Lluest yn cynnig amgylchedd gwledig braf i fyfyrwyr, i wirfoddolwyr ac i staff ar gyfer eu gwaith a’u hyfforddiant.
Serch hynny, datblygiad diweddar ar y safle yw Mentro Lluest. Plas Lluest, y plasty a agorwyd ym 1981 ac sydd drws nesaf i’r blanhigfa, oedd cartref cyntaf ein helusen. Fel rhan o ddatblygu’r ystad cliriodd staff a thrigolion y plasty y tir lle mae’r blanhigfa nawr yn sefyll. Defnyddient y darn hwn o dir ar gyfer tyfu llysiau ac fel ardal hamdden i’w mwynhau.
Ym 1996 crewyd Plas Lluest Plant Nursery i ddysgu sgiliau elfennol, gyda’r planhigion a dyfwyd gan drigolion y plasty yn cael eu gwerthu i’r cyhoedd ac yn dod ag incwm bach iddynt. Yn y pen draw daeth y feithrinfa yn fusnes gymunedol annibynnol gyda Bwrdd o Gyfarwyddwyr. Yr oedd cysylltiadau cryf â’r gymuned: yr oedd cytundebau gyda Chyngor Cymuned Llanbadarn Fawr ar gyfer chwynnu a glanhau llwybrau a gosod basgedi crog, a chyda Chyngor Tref Aberystwyth i gynnal a chadw ardaloedd o gwmpas meysydd parcio.
Cafodd Plas Lluest Plant Nursery statws elusennol, annibynnol ym 1998 a newidiwyd ei henw i Mentro Lluest yn 2000.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r elusen wedi cael nawdd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (European Social Fund - ESF), Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (Wales Council for Voluntary Action - WCVA), Cymunedau’n Gyntaf (Communities First) a Chymunedau’r Dyfodol (Future Communities). Mae hyn wedi ein galluogi i sefydlu Cynllun Gwirfoddoli, cynnig hyfforddiant mewn garddio organig, cynyddu nifer ein myfyrwyr a gwella’r cyfleusterau sydd ar gael i ddefnyddwyr ein gwasanaeth.
Ym mis Medi, 2004 llwyddodd Mentro Lluest i gael grant tair blynedd gan gronfa Amcan Un (ESF). Mae’r nawdd hwn yn rhoi cyfle inni i sicrhau y bydd y prosiect yn mynd o nerth i nerth yn y gymuned yn ogystal â dod yn ganolfan hyfforddi flaenllaw ym myd dysgu sgiliau garddwriaethol i bobl ag anghenion arbennig a phobl eraill yn y gymuned.