/-- content row -->
|
Masnach yn Mentro Lluest
Cynnyrch organig
Mae siop fach ar safle Mentro Lluest lle y gwerthwn gynnyrch sydd dros ben, cynnyrch a dyfwyd gan ein myfyrwyr. Yn ystod y tymor tyfu mae gennym, fel arfer, ddewis eang o gynnyrch yn ei dymor – llysiau cyfarwydd fel tatws, winwns, moron a llysiau sy’n anghyfarwydd i lawer, fel cicaion (gowrdiau) a gowrdiau sbageti (“spaghetti squash”), ynghyd â blodau bwytadwy – bwydydd rydym wedi eu tyfu’n organig ac sy’n cyrraedd safonau Cymdeithas y Pridd (Soil Association). I’r rhai sy’n dymuno cael cyflenwad rheolaidd o lysiau a dyfir yn lleol rydym yn darparu Cynllun Bocs Llysiau Organig. Mae bocsys bach neu fawr ar gael (am £5 a £10); rydym yn codi’r llysiau bob dydd Gwener a gallwch gasglu’ch bocs y diwrnod hwnnw. Mae’r cynllun wedi bod ar waith er 2004 ac mae’n boblogaidd iawn, iawn. Oherwydd hyn mae yna restr aros – os hoffech gael eich enw ar y rhestr, rhowch wybod.
Y Blanhigfa
Mae ein planhigfa yn cynhyrchu arddangosfa ysblennydd o blanhigion ar gyfer y gwely blodau, ynghyd â phlanhigion lluosflwydd a llwyni, planhigion sydd ar werth yn ystod y gwanwyn a’r haf. Rydym yn plannu basgedi crog yn ôl y galw hefyd. Os ydych yn edrych am rywbeth gwahanol yna dewch i weld ein casgliadau o blanhigion suddlon (succulents) a phryfysol (insectivorous). Mae’r rhain yn boblogaidd gyda phobl o bob oedran. Mae ein dewis o blanhigion pryfysol ar gynnydd o hyd ac mae’n cynnwys mathau diddorol dros ben.
|