english

 

 

YN GALW POB GARDDWR

Er gwaethaf colli nifer o aelodau staff wrth i’r cyllid o Ewrop ddod i ben, mae Mentro Lluest mor brysur ag erioed ac mae amrywiaeth y gwaith a’r cynnyrch yn fwy nag erioed.

Mae’n byddin o wirfoddolwyr wedi gweithio’n ddiflino dros y chwe mis diwethaf, nid yn unig yn cynnal a chadw’r safle fel y mae wedi’i reoli yn y gorffennol, ond hefyd yn profi syniadau newydd ac yn ehangu’r amrywiaeth o blanhigion a llysiau.

Ond mae angen mwy o help arnon ni. Os oes gennych chi neu rywun rydych yn ei nabod ddiddordeb mewn garddio a gallech sbario ychydig oriau bob wythnos neu bythefnos, byddai Mentro Lluest wrth ei fodd clywed gennych.

Mae ystod y tasgau’n helaeth, felly beth bynnag yw’ch diddordeb, mae’n siŵr y bydd rhywbeth i’ch diddori, o lysiau organig, permaddiwylliant a phlanhigion llesol i blanhigion i’w plannu allan, planhigion suddlon, planhigion lluosflwydd a llwyni - dewch i edrych o gwmpas.

Os ydych yn meddwl y gallwch helpu, galwch heibio i siarad â Chris, neu ffoniwch ni ar 01970 612114.