english

 

 

Yn galw pob gwirfoddolwr

Ar ôl misoedd tawel y gaeaf mae Mentro Lluest wedi bod yn brysur iawn wrthi. Mae pawb yn brysur yn yr ardal organig ac yn y blanhigfa er mwyn sicrhau y bydd digon o gynnyrch ar gyfer ein Dydd Agored ar 12fed Mai.

Mae Mentro Lluest yn galw ynghyd wirfoddolwyr – henlawiau a rhai newydd – i ddod i’n helpu. Mae dewis da o weithgareddau ar y safle ac mae ein gwirfoddolwyr presennol yn gallu cadarnhau nad oes angen arnoch wybodaeth neu gymwysterau arbennig er mwyn bod yn rhan o’r fenter.

Pleser mawr inni yw cyhoeddi ein bod wedi derbyn siec o £4,000 gan The Woodward Charitable Trust tuag at ein prosiect gwirfoddoli. Achubwn ar y cyfle hwn i ddiolch i The Woodward Charitable Trust am ei rhodd hael a fydd, ymhlith pethau eraill, yn sicrhau na fydd unrhyw un o’n gwirfoddolwyr ar eu colled trwy ein cefnogi.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli ffoniwch Chris Glover ar 01970 612114 neu gliciwch fan hyn i anfon neges e-bost ato.