english

 

 

We-siop newydd Mentro Lluest

Mae Mentro Lluest wedi lansio we-siop newydd er mwyn codi arian ar lein. Gofynnwn i’n cefnogwyr siopa ar lein yn www.buy.at/mentrolluest fel y gallant godi arian yn hawdd i’r elusen.

Gellir fynd i dros gant o adwerthwyr trwy’r we-siop, yn cynnwys Amazon, Littlewoods, Marks & Spencer, John Lewis, HMV a RAC. Mae llawer o’r adwerthwyr yn cynnig manteision dethol ond trwy’r we-siop, pethau megis gostyngiadau a chludiant am ddim (pethau a fydd yn denu rhai cefnogwyr i brynu trwy’r we-siop).

Mae’r we-siop yn hawdd ei defnyddio ac nid yw’n costi dim i gwsmeriaid. Fel yr eglura Chris Glover, Swyddog Datblygu Mentro Lluest, “Nid yw’r cwsmer yn gorfod talu ychwaneg o gwbl. Yn wir, dylai elwa o ostyngiadau sy’n sylweddol o’u cymharu â phrisiau’r stryd fawr. Daw’r arian a roddir i ni yn syth o gyllideb marchnata’r adwerthwr ac nid o’ch poced chi. Byddwn ni’n cael comisiwn bob tro y prynir rhywbeth trwy’r we-siop. Dyma ffordd rwydd iawn o gyfrannu tuag at ein hachos!”

Cliciwch y ddelwedd isod i ymweld â’n we-siop.

Cliciwch y ddelwedd isod i ymweld â’n we-siop