Yn ein Planhigfa mae’n myfyrwyr a’n staff yn prysur dyfu a phricio allan banhigion ar gyfer y gwanwyn ac yn sicrhau y bydd digon o blanhigion o safon ganddynt pan fydd y tymor prynu yn ei anterth. I’r rhai sy’n edrych am rywbeth gwahanol mae gennym ddewis eang o blanhigion suddlon a phlanhigion pryfysol (sy’n boblogaidd iawn ymhlith yr ifainc). Mae’n hadran Organig hefyd yn brysur ac wedi bod wrthi’n rhoi cynlluniau ar waith i werthu rhagor o fwydydd eleni i Gaffi Canolfan y Celfyddydau ac i gyflenwi busnesau lleol eraill. Ar ben y llwyddiannau hyn bydd y Cynllun Bocs Llysiau Organig, a sefydlwyd yn 2004, yn cael ei adfer eleni eto. Mae’r bocsys hyn yn dra phoblogaidd ac ni allwn gwrdd â’r galw i gyd amdanynt. Os hoffech roi eich enw ar ein rhestr aros, rhowch wybod.
» english 