english

 

 

Newyddion

Cyrsiau’r Gwanwyn

 

Cyrsiau’r Gwanwyn

Tyfu mewn twnelau

Dysgwch sut i estyn y tymor tyfu. Diwrnod anffurfiol o feddwl am a thrafod tyfu mewn twnelau.

£15 y dydd

Dydd Mercher 17eg Chwefror neu Dydd Sadwrn 27ain Chwefror

10.00 - 3.00



Dechrau tyfu organig

Tyfu llysiau, compostio, cadw gardd wyllt – golwg ar arddio’n holistig o’r dechrau i’r diwedd.

£15 y dydd

Dydd Mercher 10fed Mawrth, Dydd Sadwrn 27ain Mawrth neu Dydd Mercher 28ain Ebril



Tyfu planhigion ymlaen

Cyfres o gyrsiau yn y Gwanwyn am wahanol ddulliau. Manteisiwch ar dyfiant cynnar er mwyn llenwi’ch gardd â phlanhigion sy’n rhad ac am ddim.


£20 y dydd - Yn cynnwys detholiad o doriadau i fynd adref.

Dydd Sadwrn 6ed Mawrth neu Dydd Mercher 24ain Mawrth

Dydd Mercher 7fed Ebrill, Dydd Sadwrn 10fed Ebrill neu Dydd Sadwrn 24ain Ebrill

I logi lle cysylltwch â Mentro Lluest ar 01970 612114 neu ebost.

 

 

 

 

 

 


Yn galw pob gwirfoddolwr

Ar ôl misoedd tawel y gaeaf mae Mentro Lluest wedi bod yn brysur iawn wrthi. Mae pawb yn brysur yn yr ardal organig ac yn y blanhigfa er mwyn sicrhau y bydd digon o gynnyrch ar gyfer ein Dydd Agored ar 12fed Mai.

Mae Mentro Lluest yn galw ynghyd wirfoddolwyr – henlawiau a rhai newydd – i ddod i’n helpu.


We-siop newydd Mentro Lluest

Mae Mentro Lluest wedi lansio we-siop newydd er mwyn codi arian ar lein. Gofynnwn i’n cefnogwyr siopa ar lein yn www.buy.at/mentrolluest fel y gallant godi arian yn hawdd i’r elusen.

Cliciwch y ddelwedd isod i ymweld â’n we-siop.

Cliciwch









Mentro Lluest yn cael gliniadur gan BT

Mae Mentro Lluest wedi ennill gwobr “e-ffective Connection Award” gan BT Community Connections – cynllun gwobrwyo sy’n cysylltu grwpiau cymunedol a gwirfoddol â’r rhyngrwyd.


Ail seremoni cyflwyno tystysgrifau yn 2006

Yn dilyn llwyddiant prosiect addysgol Mentro Lluest y llynedd bu raid inni gynnal ail seremoni ar 13eg Rhagfyr 2006 er mwyn cyflwyno tystysgrifau. Llwyddodd deuddeg o fyfyrwyr i gwblhau cyrsiau ac roedd 9 yn bresennol i dderbyn tystysgrifau gan Michael Jones, Maer Tref Aberystwyth.


YMWELIAD GAN YSGOL

Ymwelodd disgyblion Blwyddyn 5, Ysgol Gymunedol Llwyn yr Eos â Mentro Lluest ar 12fed Hydref 2006 fel rhan o’u prosiect ar lysiau, prosiect ar y cyd â Chanolfan Organig Cymru. Aethant o gwmpas yr ardal dyfu organig a chael y cyfle i godi llysiau nad oeddynt wedi gweld llawer o’u math erioed o’r blaen y tu allan i archfarchnad.<


CYFLWYNO TYSTYSGRIFAU I FYFYRWYR YN 2006

Cynhaliwyd seremoni i gyflwyno tystysgrifau ar 25ain Medi yn Mentro Lluest. Yr oedd hi’n amser i ddathlu gwaith caled a llwyddiant y myfyrwyr dros y flwyddyn. Daeth staff, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr, teuluoedd a chyfeillion ynghyd yn yr Ystafell Hyfforddi, ar ein safle yn Llanbadarn, i weld y myfyrwyr yn derbyn eu tystysgrifau.

XML feed