Gwirfoddoli ym Mentro Lluest

A hoffech

• ddatblygu eich sgiliau yn yr ardd?
• roi rhywbeth arbennig yn y braslun gyrfa?
• wneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill?
• gymdeithasu ymhlith pobl o gyffelyb anian i chi?

Pwy ydym ni?

Mae Mentro Lluest yn ganolfan rhagoriaeth sy’n dysgu sgiliau i bobl o fewn fframwaith tyfu organig, cynaliadwyedd amgylcheddol a chydlyniad cymdeithasol. Mae ein gwirfoddolwyr yn cefnogi’r prosiect mewn gwahanol ffyrdd – trwy gyfrannu’n ymarferol i gadw’r safle a thrwy ein helpu i greu amgylchedd cadarnhaol ar gyfer ein myfyrwyr sy’n gweithio yma.

Beth allwn ei gynnig i Wirfoddolwyr?

Trwy wirfoddoli yn Mentro Lluest cewch gyfle i ddatblygu eich sgiliau garddio trwy weithio yng nghwmni garddwriaethwyr proffesiynol. Cewch gyflwyniad llawn i Mentro Lluest a’r cyfle i fod yn rhan o’n gwasanaeth mentora. Gallwch weithio a chymdeithasu mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol. Tra byddwch yn cael profiad gwaith ymarferol ac yn mwynhau’r bywyd agored, bydd gwybod eich bod yn cyfrannu rhywbeth pwysig i fywydau pobl sy’n dioddef anfanteision beunyddiol yn destun boddhad ichi.

Beth allwch chi ei wneud?

• Garddwriaeth – Plannu, tyfu a gofalu am ein planhigion lluosflwydd a’n planhigion ar gyfer y gwely blodau a’r fasged grog.
• Garddio Organig – Tyfu a chynaeafu llysiau organig, cnydau salad, perlysiau a ffrwythau.
• Cefnogi Myfyrwyr – Helpu myfyrwyr gyda’u gwaith garddio.
• DIY – Cynnal a chadw’r safle yn gyffredinol, gan gynnwys cynnal llwybrau, addurno gweithfannau, a rhoi trefn ar forderi.
• Ymchwil – Mae croeso i fyfyrwyr prifysgol i gysylltu â ni er mwyn trafod defnyddio’r safle ar gyfer prosiectau ymchwil.
• Cadwraeth – Mae ardal wedi’i neilltuo gennym ar gyfer gwaith cadwraeth – tyfir yma blanhigion sy’n gynhenid i Gymru. Mae cyfle hefyd i wella’n pylloedd a’u datblygu ymhellach.
Ni fyddai’n bosibl inni gadw Mentro Lluest heb gyfraniad gwerthfawr ein gwirfoddolwyr.

Gallwch gysylltu’n uniongyrchol â Mentro Lluest ar 01970 612114 neu drwy e-bostio volunteering@mentrolluest.org

Volunteers and students working together
Volunteers recover polytunnel