Mae’r cwrs NVQ Lefel 2, sy’n adeiladu ar NVQ Lefel 1, yn paratoi myfyrwyr ymhellach ar gyfer y byd gwaith. Mae myfyrwyr yn dysgu am gynhyrchu cnydau dwys ar raddfa ehangach ac mae disgwyl iddynt fod yn fwy cyfrifol am eu gwaith ysgrifenedig ac ymarferol.
Tra oedd disgwyl i fyfyrwyr cwrs NVQ Lefel 1 gynorthwyo gydag amryw o weithgareddau, mae disgwyl i fyfyrwyr Lefel 2 fod yn fwy annibynnol a chyfrifol. Gofalant am gnwd neu ardal dyfu sydd wedi’i neilltuo ar eu cyfer a phan fyddant yn hyderus fe allant fynd ymlaen â phrosiectau gwaith amrywiol eraill.
Ni ddylai myfyrwyr sy’n ennill y cymhwyster hwn ei chael hi’n anodd i ddod o hyd i waith cyflogedig yn y sector garddwriaethol.
Unedau a ddysgir yn y cwrs NVQ Lefel 2 mewn Cynhyrchu Garddwriaethol
Clirio a pharatoi tir ar gyfer tyfu cnydau
• Clirio tir ar gyfer plannu
• Paratoi ardaloedd tyfu a’r adnoddau angenrheidiol ar gyfer plannu
Gosod allan a sefydlu cnydau
• Gosod allan planhigion mewn cyfrwng meithrin
• Sefydlu planhigion mewn cyfrwng tyfu
Cadw golwg ar a chynnal tyfiant cnydau
• Cadw golwg ac adrodd ar dyfiant a datblygiad cnydau
• Sicrhau lleithder a maeth cywir ar gyfer y cnydau
• Sicrhau bod y planhigion yn dod i’w llawn dwf
Cynaeafu a pharatoi cnydau dwys
• Cynaeafu cnydau dwys
• Paratoi cnydau dwys
Cadw golwg ar a chynnal safonau iechyd a diogelwch
• Cadw golwg ar a chynnal safonau iechyd, diogelwch a diogeledd yn y gweithle
• Cadw at safonau da o ran iechyd a diogelwch ei hun ac eraill
Gwella cyflwyniad personol yn y gwaith a chadw perthynas dda ag eraill
• Gwella cyflwyniad personol yn y gwaith
• Creu perthynas effeithiol ag eraill yn y lle gwaith
Tyfu planhigion o had
• Paratoi deunyddiau a hau
• Gofalu am hadblanhigion
Cadw golwg ar amgylchedd cnydau sy wedi’u diogelu rhag y tywydd
• Cadw golwg ac adrodd ar amgylchiadau amgylcheddol planhigion sy’n tyfu dan do
• Cadw golwg ar a chynnal y systemau dyfrio
Adnabod plâu a heintiau a helpu i’w rheoli
• Adnabod plâu a heintiau ac adrodd bod planhigion yn heintus neu’n dioddef pla
• Cynorthwyo gyda rheoli plâu ac afiechydon