Os ydych dan anfantais yn y gymuned neu’n anabl fe allwn gynnig cwrs achrededig mewn garddwriaeth ichi YN RHAD AC AM DDIM ar ein safle organig tair erw yng nghyffiniau Aberystwyth. Rydym yn cynnig cyrsiau ar bedair lefel ar hyn o bryd, o lefel gyntaf NPTC at ail lefel NVQ; ein nod yw eich galluogi i ddatblygu’ch sgiliau trin gardd a thir a’ch sgiliau bywyd ochr yn ochr â rhoi gwell cyfle ichi i ennill swydd neu fynd ymlaen i hyfforddiant pellach. Yn ystod y cwrs bydd ein staff profiadol yn rhoi llawer o gymorth ichi a byddant yn gweithio gyda chi i greu cynllun datlygiad personol ar ben eich astudiaethau.
Rhaglen i Wirfoddolwyr
Mae gan Mentro Lluest raglen brysur ar gyfer Gwirfoddolwyr, rhaglen sy’n cynnyws garddio, cadwraeth, a sgiliau trin tir. Mae cyfle hefyd i ddatblygu prosiectau ymchwil. Mae misoedd y gwanwyn a’r haf yn llawn prysurdeb yn Mentro Lluest gyda nifer fawr o bethau i’w gwneud – cysylltwch â ni os hoffech gynnig rhywfaint o’ch amser i helpu’r prosiect.
Ar werth
Mae siop fach ar y safle sy’n gwerthu llysiau organig sydd dros ben, llysiau a dyfwyd gan ein myfyrwyr. Yn ystod yr adeg tyfu mae gennym Gynllun Bocs Llysiau Organig; mae’r cynllun hwn yn boblogaidd iawn yn y gymuned leol – cliciwch y ddolen farchnata er mwyn cael rhagor o wybodaeth. Mae ein planhigfa yn cynhyrchu arddangosfa ysblennydd o blanhigion ar gyfer y gwely blodau a’r fasged grog, planhigion lluosflwydd, llwyni, a phlanhigion suddlon a phrifysol – dewch draw i’w gweld!
Mae Mentro Lluest yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer dysgu sgiliau i bobl sydd ag anghenion arbennig o fewn fframwaith tyfu cynnyrch organig, cynaladwyedd amgylcheddol a chydlyniad cymdeithasol.