english

 

 

Mae Mentro Lluest yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer dysgu sgiliau i bobl sydd ag anghenion arbennig o fewn fframwaith tyfu cynnyrch organig, cynaladwyedd amgylcheddol a chydlyniad cymdeithasol.

Mentro Lluest – Yn eich helpu chi i dyfu


Mae Mentro Lluest yn agored i’r cyhoedd


Ddydd Llun i ddydd Gwener 9:30 - 4:00

Ystod eang o blanhigion a llysiau ar werth

Dewch i weld gwaith caled ein gwirfoddolwyr a’n buddiolwyr

 

 


Cyrsiau’r Gwanwyn

 

Cyrsiau’r Gwanwyn

Tyfu mewn twnelau

Dysgwch sut i estyn y tymor tyfu. Diwrnod anffurfiol o feddwl am a thrafod tyfu mewn twnelau.

£15 y dydd

Dydd Mercher 17eg Chwefror neu Dydd Sadwrn 27ain Chwefror

10.00 - 3.00



Dechrau tyfu organig

Tyfu llysiau, compostio, cadw gardd wyllt – golwg ar arddio’n holistig o’r dechrau i’r diwedd.

£15 y dydd

Dydd Mercher 10fed Mawrth, Dydd Sadwrn 27ain Mawrth neu Dydd Mercher 28ain Ebril



Tyfu planhigion ymlaen

Cyfres o gyrsiau yn y Gwanwyn am wahanol ddulliau. Manteisiwch ar dyfiant cynnar er mwyn llenwi’ch gardd â phlanhigion sy’n rhad ac am ddim.


£20 y dydd - Yn cynnwys detholiad o doriadau i fynd adref.

Dydd Sadwrn 6ed Mawrth neu Dydd Mercher 24ain Mawrth

Dydd Mercher 7fed Ebrill, Dydd Sadwrn 10fed Ebrill neu Dydd Sadwrn 24ain Ebrill

I logi lle cysylltwch â Mentro Lluest ar 01970 612114 neu ebost.

 

 

 

 

 

 


YN GALW POB GARDDWR

Er gwaethaf colli nifer o aelodau staff wrth i’r cyllid o Ewrop ddod i ben, mae Mentro Lluest mor brysur ag erioed ac mae amrywiaeth y gwaith a’r cynnyrch yn fwy nag erioed.

Mae’n byddin o wirfoddolwyr wedi gweithio’n ddiflino dros y chwe mis diwethaf, nid yn unig yn cynnal a chadw’r safle fel y mae wedi’i reoli yn y gorffennol, ond hefyd yn profi syniadau newydd ac yn ehangu’r amrywiaeth o blanhigion a llysiau.

Ond mae angen mwy o help arnon ni. Os oes gennych chi neu rywun rydych yn ei nabod ddiddordeb mewn garddio a gallech sbario ychydig oriau bob wythnos neu bythefnos, byddai Mentro Lluest wrth ei fodd clywed gennych.

Mae ystod y tasgau’n helaeth, felly beth bynnag yw’ch diddordeb, mae’n siŵr y bydd rhywbeth i’ch diddori, o lysiau organig, permaddiwylliant a phlanhigion llesol i blanhigion i’w plannu allan, planhigion suddlon, planhigion lluosflwydd a llwyni - dewch i edrych o gwmpas.

Os ydych yn meddwl y gallwch helpu, galwch heibio i siarad â Chris, neu ffoniwch ni ar 01970 612114.


We-siop newydd Mentro Lluest

Mae Mentro Lluest wedi lansio we-siop newydd er mwyn codi arian ar lein. Gofynnwn i’n cefnogwyr siopa ar lein yn www.buy.at/mentrolluest fel y gallant godi arian yn hawdd i’r elusen.

Cliciwch y ddelwedd isod i ymweld â’n we-siop.

Cliciwch









Cyrsiau yn Mentro Lluest

CWRS GARDDIO ORGANIG

Curo’r argyfwng credyd, lleihau’ch milltiroedd bwyd a gwybod beth rydych chi’n ei fwyta

Cwrs 10 wythnos, bob dydd Mercher gan ddechrau ddydd Mercher 1 Ebrill am 10 wythnos.

Bydd y cwrs 10 wythnos hwn yn eich dysgu sut i dyfu’ch bwyd eich hun, yn organig ac yn gynaliadwy, o lawnt i wely llysiau cynhyrchiol. Byddwch yn paratoi’ch llain eich hun ar safle organig Mentro Lluest sydd wedi’i ardystio gan Gymdeithas y Pridd gan weithio â’n harbenigwr preswyl i gynhyrchu’ch llysiau’ch hun, o’r hedyn i’r plât.

£10 yr wythnos – mae cost y cwrs yn cynnwys yr holl hadau a deunyddiau.

I archebu’ch lle, neu am fanylion pellach, cysylltwch â Mentro Lluest ar 01970 612114 neu drwy e-bost.

Volunteers and students working together
 

Upcoming events

Newyddion